Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mawrth 2017
Amser: 09.06 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3849
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Claire Vaughan, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Sarah Morley, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Kate Lorenti, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Joanna Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Councillor Tudor Davies, South Wales Fire and Rescue Authority Phil Haynes, South Wales Fire and Rescue Authority Councillor Suzanne Paddison, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Kevin Jones, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Gary Brandrick, North Wales Fire and Rescue Authority |
Staff y Pwyllgor: |
Christopher Warner (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
· Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre
· Kate Lorenti, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
· Joanna Davies, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
2.2 Cytunodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu:
· nodyn ar nifer y cyflogeion y telir eu tanysgrifiadau undeb drwy eu didynnu o’u cyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’), ac ar y costau gweinyddol sydd ynghlwm;
· nodyn i egluro’r ffactorau y byddent yn disgwyl iddynt gael eu hystyried wrth bennu cost datgymhwyso’r trothwy pleidleisio o 40% i’r gwasanaeth iechyd.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
· Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
· Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o’r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
· Kevin Jones, Arweinydd Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
· Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
3.2 Cytunodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddarparu nodyn o’i Adran Gyllid ar y costau sydd ynghlwm wrth ddidynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’).
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).
4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch ei amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.